DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau’r Amgylchedd (Swyddogaethau Deddfwriaethol o Gyfarwyddebau) (Ymadael Â’r UE) 2019

DYDDIAD

07 Mehefin 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau’r Amgylchedd (Swyddogaethau Deddfwriaethol o Gyfarwyddebau) (Ymadael Â’r UE) 2019

 

Golwg Gyffredinol ar y Polisi yn yr OS

Mae Rheoliadau 2019 yn mynd i'r afael â methiant cyfraith yr UE a ddargedwir i weithio’n effeithiol ac â diffygion eraill a fydd yn deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Offerynnau Ewropeaidd sy'n Uniongyrchol Gymwysadwy a ddiwygir gan Reoliadau 2019

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2004/42/CE Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfyngu ar allyriadau cyfansoddion organig anweddol, sydd â'r nod o leihau’r cyfansoddion organig anweddol mewn mathau penodol o baentiau a farneisiau, ac mewn cynhyrchion ailorffen cerbydau, er mwyn atal neu leihau llygredd aer sy'n ganlyniad i'r cyfraniad y mae cyfansoddion organig anweddol yn ei wneud at ffurfio osôn troposfforig.

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/50/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach ar gyfer Ewrop, sy’n pennu terfynau sy'n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer crynodiadau o'r prif lygryddion aer sy'n effeithio ar iechyd pobl, megis deunydd gronynnol a nitrogen deuocsid (NO2), mewn aer y tu allan.

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2010/75/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd mewn ffordd integredig), sy'n pennu rheolau ar atal a rheoli mewn ffordd integredig lygredd sy'n deillio o weithgareddau diwydiannol penodol.

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2015/2193/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfyngu ar allyrru llygryddion penodol i'r aer o weithfeydd hylosgi canolig, sy'n pennu rheolau ar gyfer rheoli allyriadau sylffwr deuocsid (SO2), ocsidau nitrogen (NOx) a llwch i'r aer o weithfeydd hylosgi canolig, a rheolau i fonitro allyriadau carbon monocsid (CO). 

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2016/2284/EU Senedd Ewrop a'r Cyngor ar leihau allyriadau cenedlaethol o lygryddion atmosfferig penodol, sy'n pennu ymrwymiadau'r Aelod-wladwriaethau i leihau allyriadau atmosfferig anthropogenig o lygryddion penodedig, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt lunio, mabwysiadu a gweithredu rhaglenni cenedlaethol i reoli llygredd aer, ac i fonitro ac adrodd ar allyriadau o lygryddion penodedig a'u heffeithiau. 

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, dyddiedig 25 Mehefin 2002, sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol, ac sy'n diffinio dull cyffredin o weithredu er mwyn osgoi, atal neu leihau, ar sail blaenoriaeth, yr effeithiau niweidiol, gan gynnwys annifyrrwch, sy'n gysylltiedig â dod i gysylltiad â sŵn amgylcheddol. 

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, dyddiedig 14 Mawrth 2007, sy'n sefydlu Seilwaith ar gyfer Gwybodaeth Ofodol yn y Gymuned Ewropeaidd (INSPIRE), sy'n pennu rheolau cyffredinol ar gyfer sefydlu INSPIRE, er budd polisïau amgylcheddol y Gymuned a pholisïau neu weithgareddau a allai gael effaith ar yr amgylchedd. 

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/56/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, dyddiedig 17 Mehefin 2008, sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu gan y Gymuned ym maes polisi amgylcheddol morol, sy'n sefydlu fframwaith i'r Aelod-wladwriaethau fedru cymryd y camau angenrheidiol i gyrraedd neu i gynnal statws amgylcheddol da yn yr amgylchedd morol erbyn y flwyddyn 2020 fan hwyraf.

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 23 Hydref 2000, sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu gan y Gymuned ym maes polisi dwr, sydd â'r nod o sefydlu fframwaith ar gyfer gwarchod dyfroedd wyneb mewndirol, dyfroedd trosiannol, dyfroedd arfordirol a dŵr daear.  

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/118/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 12 Rhagfyr 2006 ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a rhag dirywio, sy'n sefydlu mesurau penodol i atal dŵr daear rhag cael ei lygru a'i ddisbyddu, ac i reoli hynny.  

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 16 Rhagfyr 2008 ar safonau ansawdd amgylcheddol ym maes polisi dŵr, sy'n pennu safonau ansawdd amgylcheddol ar gyfer sylweddau â blaenoriaeth ac ar gyfer llygryddion penodol eraill fel y darperir ar gyfer hynny yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (y Gyfarwyddeb “Safonau Ansawdd Amgylcheddol”), gyda'r nod o sicrhau bod statws cemegol dŵr wyneb yn dda. 

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/7/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2006 ynghylch rheoli ansawdd dŵr ymdrochi, sydd â'r nod o ddiogelu, gwarchod a gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi. 

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC dyddiedig 3 Tachwedd 1998 ar ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl, sydd â'r nod o ddiogelu iechyd pobl rhag effeithiau niweidiol unrhyw achos o halogi dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl drwy sicrhau ei fod yn ddihalog ac yn lân. 

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC dyddiedig 21 Mai 1991 ynghylch trin dŵr gwastraff trefol, sy'n ymdrin â chasglu, trin a gollwng dŵr gwastraff trefol a thrin a gollwng dŵr gwastraff o sectorau diwydiannol penodol ac sydd â'r nod o ddiogelu'r amgylchedd rhag effeithiau niweidiol gollwng dŵr gwastraff o'r fath.

 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC dyddiedig 12 Rhagfyr 1991 ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, sydd â'r amcan o leihau llygredd dŵr a achosir neu a ysgogir gan nitradau o  ffynonellau amaethyddol ac atal rhagor o lygredd o'r fath. 

·         Cyfarwyddeb y Cyngor 86/278/EEC dyddiedig 12 Mehefin 1986 ar ddiogelu'r amgylchedd, ac yn benodol y pridd, pan ddefnyddir slwtsh carthion ym maes amaethyddiaeth. 

 

Diben y diwygiadau

Mae'r offeryn hwn yn trosglwyddo cyfres o swyddogaethau deddfwriaethol sy'n cael eu rhoi gan Gyfarwyddebau'r Undeb Ewropeaidd (“UE”) i'r Comisiwn Ewropeaidd (“y Comisiwn”), i awdurdodau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (“DU”), fel y bo modd iddynt gael eu harfer ar lefel genedlaethol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. 

 

Mae Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith y diwygiadau, i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/01V7gIYC

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Y Môr

 

Mae gan Weinidogion Cymru rai swyddogaethau gweithredol sy'n ymwneud â'r môr ym Mharth Cymru, ac o'r herwydd, bydd gofyn cael eu cydsyniad hwy os bydd rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 6 o Reoliadau'r Strategaeth Forol 2010 yn effeithio ar y cymhwysedd gweithredol hwnnw, neu os bydd yn debygol o effeithio arno.

 

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru rywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol yn yr ardal forol mewn perthynas â Chymru, ac eithrio materion fel morgludiant, olew a nwy, a gedwir yn ôl. O'r herwydd, cyn gwneud rheoliadau o dan Ran 6 Rheoliadau'r Strategaeth Forol 2010, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru pan fo'r rheoliadau'n gymwys o ran Cymru (fel y diffinnir hynny yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.

 

Ansawdd Aer, Dŵr a Sŵn Amgylcheddol

 

Mae darpariaeth yn yr OS hwn sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair ac i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau o ran Cymru. Mae swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol i'w harfer ar yr un pryd, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron sy'n ymwneud â swyddogaeth ddatganoledig amodol at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'n bosibl, felly, y gallai hynny fod yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

 

Mae swyddogaethau a drosglwyddir fel eu bod yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig, neu a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol ond sy’n arferadwy gyda chydsyniad yr Awdurdodau Datganoledig yn unig mewn perthynas â thiriogaethau datganoledig, hefyd yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran, ac ar ran, Cymru am resymau'n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau. Mae’r diwygiadau wedi cael eu hystyried yn llawn; ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi. Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.